minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Seithfed Sul y Pasg

29ain Mai 2022

Y Sul ar ôl Dydd Iau’r Dyrchafael

Wythnos weddi am ddoniau’r Ysbryd Glân

Colect

O Dduw, Brenin y gogoniant, dyrchefaist dy unig Fab Iesu Grist â buddugoliaeth fawr i’th deyrnas yn y nefoedd: erfyniwn arnat beidio â’n gadael yn ddigysur, ond anfon dy Ysbryd Glân i’n nerthu ni a’n dyrchafu i’r fan lle’r aeth ein Hiachawdwr Crist o’n blaen, yr hwn sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth.  Amen.

Darlleniad o Ezekiel 36. 24-28

Oherwydd byddaf yn eich cymryd o blith y cenhedloedd, yn eich casglu o'r holl wledydd, ac yn dod â chwi i'ch gwlad eich hunain.  Taenellaf ddŵr glân drosoch i'ch glanhau; a byddwch yn lân o'ch holl aflendid ac o'ch holl eilunod.  Rhof i chwi galon newydd, a bydd ysbryd newydd ynoch; tynnaf allan ohonoch y galon garreg, a rhof i chwi galon gig.  Rhof fy ysbryd ynoch, a gwneud ichwi ddilyn fy neddfau a gofalu cadw fy ngorchmynion.  Byddwch yn byw yn y tir a roddais i'ch hynafiaid; byddwch yn bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi. 

Dyma air yr Arglwydd
Diolch a fo i Dduw

Salm 97

Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; gorfoledded y ddaear, bydded ynysoedd lawer yn llawen.

Y mae cymylau a thywyllwch o'i amgylch, cyfiawnder a barn yn sylfaen i'w orsedd.

Y mae tân yn mynd o'i flaen, ac yn llosgi ei elynion oddi amgylch.

Y mae ei fellt yn goleuo'r byd, a'r ddaear yn gweld ac yn crynu.

Y mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD, o flaen Arglwydd yr holl ddaear.

Y mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder, a'r holl bobloedd yn gweld ei ogoniant.

Bydded cywilydd ar yr holl addolwyr delwau sy'n ymffrostio mewn eilunod; ymgrymwch iddo ef, yr holl dduwiau.

Clywodd Seion a llawenhau, ac yr oedd trefi Jwda yn gorfoleddu o achos dy farnedigaethau, O ARGLWYDD.

Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn oruchaf dros yr holl ddaear; yr wyt wedi dy ddyrchafu'n uwch o lawer na'r holl dduwiau.

Y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni, y mae'n cadw bywydau ei ffyddloniaid, ac yn eu gwaredu o ddwylo'r drygionus.

Heuwyd goleuni ar y cyfiawn, a llawenydd ar yr uniawn o galon.

Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, rai cyfiawn, a moliannwch ei enw sanctaidd.

Darlleniad o Actau 16. 16-34

Un tro pan oeddem ar ein ffordd i'r lle gweddi, daeth rhyw gaethferch a chanddi ysbryd dewiniaeth i'n cyfarfod, un oedd yn dwyn elw mawr i'w meistri trwy ddweud ffortiwn.  Dilynodd hon Paul a ninnau, gan weiddi: “Gweision y Duw Goruchaf yw'r dynion hyn, ac y maent yn cyhoeddi i chwi ffordd iachawdwriaeth.”   Gwnaeth hyn am ddyddiau lawer. Blinodd Paul arni, a throes ar yr ysbryd a dweud, “Rwy'n gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, ddod allan ohoni.” Ac allan y daeth, y munud hwnnw.  Pan welodd ei meistri hi fod eu gobaith am elw wedi diflannu, daliasant Paul a Silas, a'u llusgo i'r farchnadfa o flaen yr awdurdodau, ac wedi dod â hwy gerbron yr ynadon, meddent, “Y mae'r dynion yma'n cythryblu ein dinas ni; Iddewon ydynt, ac y maent yn cyhoeddi defodau nad yw'n gyfreithlon i ni, sy'n Rhufeinwyr, eu derbyn na'u harfer.”  Yna ymunodd y dyrfa yn yr ymosod arnynt.  Rhwygodd yr ynadon y dillad oddi amdanynt, a gorchymyn eu curo â ffyn.  Ac wedi rhoi curfa dost iddynt bwriasant hwy i garchar, gan rybuddio ceidwad y carchar i'w cadw'n ddiogel.   Gan iddo gael y fath rybudd, bwriodd yntau hwy i'r carchar mewnol, a rhwymo'u traed yn y cyffion.

Tua hanner nos, yr oedd Paul a Silas yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw, a'r carcharorion yn gwrando arnynt.  Ac yn sydyn bu daeargryn mawr, nes siglo seiliau'r carchar. Agorwyd yr holl ddrysau ar unwaith, a datodwyd rhwymau pawb.  Deffrôdd ceidwad y carchar, a phan welodd ddrysau'r carchar yn agored, tynnodd ei gleddyf ac yr oedd ar fin ei ladd ei hun, gan dybio fod ei garcharorion wedi dianc.  Ond gwaeddodd Paul yn uchel, “Paid â gwneud dim niwed i ti dy hun; yr ydym yma i gyd.”  Galwodd ef am oleuadau, a rhuthrodd i mewn; daeth cryndod arno, a syrthiodd o flaen Paul a Silas.  Yna daeth â hwy allan a dweud, “Foneddigion, beth sy raid imi ei wneud i gael fy achub?”  Dywedasant hwythau, “Cred yn yr Arglwydd Iesu, ac fe gei dy achub, ti a'th deulu.”  A thraethasant air yr Arglwydd wrtho ef ac wrth bawb oedd yn ei dŷ.  Er ei bod yn hwyr y nos, aeth ef â hwy a golchi eu briwiau; ac yn union wedyn fe'i bedyddiwyd ef a phawb o'i deulu.  Yna, wedi dod â hwy i'w dŷ, gosododd bryd o fwyd o'u blaen, a gorfoleddodd gyda'i holl deulu am ei fod wedi credu yn Nuw.

Dyma air yr Arglwydd
Diolch a fo i Dduw

Gwrandewch Efengyl Crist yn ôl Sant Ioan (17. 20-26)

Gogoniant i ti, O Arglwydd.

“Ond nid dros y rhain yn unig yr wyf yn gweddïo, ond hefyd dros y rhai fydd yn credu ynof fi trwy eu gair hwy.  Rwy'n gweddïo ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O Dad, ynof fi a minnau ynot ti, iddynt hwy hefyd fod ynom ni, er mwyn i'r byd gredu mai tydi a'm hanfonodd i.  Yr wyf fi wedi rhoi iddynt hwy y gogoniant a roddaist ti i mi, er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un: myfi ynddynt hwy, a thydi ynof fi, a hwythau felly wedi eu dwyn i undod perffaith, er mwyn i'r byd wybod mai tydi a'm hanfonodd i, ac i ti eu caru hwy fel y ceraist fi.  O Dad, am y rhai yr wyt ti wedi eu rhoi i mi, fy nymuniad yw iddynt hwy fod gyda mi lle'r wyf fi, er mwyn iddynt weld fy ngogoniant, y gogoniant a roddaist i mi oherwydd i ti fy ngharu cyn seilio'r byd.  O Dad cyfiawn, nid yw'r byd yn dy adnabod, ond yr wyf fi'n dy adnabod, ac y mae'r rhain yn gwybod mai tydi a'm hanfonodd i.  Yr wyf wedi gwneud dy enw di yn hysbys iddynt, ac fe wnaf hynny eto, er mwyn i'r cariad â'r hwn yr wyt wedi fy ngharu i fod ynddynt hwy, ac i minnau fod ynddynt hwy.”

Dyma Efengyl yr Arglwydd.
Moliant i ti, O Grist.

Ôl Gymun

Rhoddwr Tragwyddol cariad a nerth, anfonodd dy Fab Iesu Grist ni i’r holl fyd i bregethu efengyl ei deyrnas: cadarnhâ ni yn y genhadaeth hon, a chynorthwya ni i fyw y newyddion da a gyhoeddwn; trwy Iesu Grist ein Harglwydd.  Amen.


Testun allan o Gair yr Arglwydd 2011 – yr Eglwys yng Nghymru. HawlfraintCyhoeddiadau’r Eglwys yng Nghymru 2011.Colectau a Gweddïau Ôl-Gymun o’r llyfr Y Calendr Newydd a’r Colectau HawlfraintCorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru 2003 ISBN – 1853115495. Dyfyniadau a Salmau trwy ganiatâd o’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) yBeibl. Cedwir pob hawl.

Cymraeg

Seventh Sunday of Easter

29th May 2022

The Sunday after Ascension Day 

Week of prayer for the gifts of the Holy Spirit

Collect

O God the King of glory, you have exalted your only Son Jesus Christ with great triumph to your kingdom in heaven: we beseech you, leave us not comfortless, but send your Holy Spirit to strengthen us and exalt us to the place where our Saviour Christ is gone before, who is alive and reigns with you and the Holy Spirit, one God, now and for ever.  Amen.

A reading from Ezekiel 36 24-28

I will take you from the nations, and gather you from all the countries, and bring you into your own land.  I will sprinkle clean water upon you, and you shall be clean from all your uncleannesses, and from all your idols I will cleanse you.  A new heart I will give you, and a new spirit I will put within you; and I will remove from your body the heart of stone and give you a heart of flesh.  I will put my spirit within you, and make you follow my statutes and be careful to observe my ordinances.  Then you shall live in the land that I gave to your ancestors; and you shall be my people, and I will be your God.

This is the word of the Lord.
Thanks be to God.

Psalm 97

The LORD is king! Let the earth rejoice; let the many coastlands be glad!

Clouds and thick darkness are all around him; righteousness and justice are the foundation of his throne.

Fire goes before him, and consumes his adversaries on every side.

His lightnings light up the world; the earth sees and trembles.

The mountains melt like wax before the Lord, before the Lord of all the earth.

The heavens proclaim his righteousness; and all the peoples behold his glory.

All worshippers of images are put to shame, those who make their boast in worthless idols; all gods bow down before him.

Zion hears and is glad, and the towns of Judah rejoice, because of your judgements, O God.

For you, O LORD, are most high over all the earth; you are exalted far above all gods.

The LORD loves those who hate evil; he guards the lives of his faithful; he rescues them from the hand of the wicked.

Light dawns for the righteous, and joy for the upright in heart.

Rejoice in the LORD, O you righteous, and give thanks to his holy name!

A reading from Acts 16. 16-34

One day, as we were going to the place of prayer, we met a slave-girl who had a spirit of divination and brought her owners a great deal of money by fortune-telling.  While she followed Paul and us, she would cry out, ‘These men are slaves of the Most High God, who proclaim to you a way of salvation.’  She kept doing this for many days. But Paul, very much annoyed, turned and said to the spirit, ‘I order you in the name of Jesus Christ to come out of her.’ And it came out that very hour.  But when her owners saw that their hope of making money was gone, they seized Paul and Silas and dragged them into the market-place before the authorities.  When they had brought them before the magistrates, they said, ‘These men are disturbing our city; they are Jews and are advocating customs that are not lawful for us as Romans to adopt or observe.’  The crowd joined in attacking them, and the magistrates had them stripped of their clothing and ordered them to be beaten with rods.  After they had given them a severe flogging, they threw them into prison and ordered the jailer to keep them securely.  Following these instructions, he put them in the innermost cell and fastened their feet in the stocks.

About midnight Paul and Silas were praying and singing hymns to God, and the prisoners were listening to them.  Suddenly there was an earthquake, so violent that the foundations of the prison were shaken; and immediately all the doors were opened and everyone’s chains were unfastened.  When the jailer woke up and saw the prison doors wide open, he drew his sword and was about to kill himself, since he supposed that the prisoners had escaped.  But Paul shouted in a loud voice, ‘Do not harm yourself, for we are all here.’  The jailer called for lights, and rushing in, he fell down trembling before Paul and Silas.  Then he brought them outside and said, ‘Sirs, what must I do to be saved?’  They answered, ‘Believe on the Lord Jesus, and you will be saved, you and your household.’  They spoke the word of the Lord to him and to all who were in his house.  At the same hour of the night he took them and washed their wounds; then he and his entire family were baptised without delay.  He brought them up into the house and set food before them; and he and his entire household rejoiced that he had become a believer in God.

This is the word of the Lord.
Thanks be to God.

Listen to the Gospel of Christ according to St John (17, 20-26)

Glory to you, O Lord.

‘I ask not only on behalf of these, but also on behalf of those who will believe in me through their word, that they may all be one.  As you, Father, are in me and I am in you, may they also be in us, so that the world may believe that you have sent me.  The glory that you have given me I have given them, so that they may be one, as we are one, I in them and you in me, that they may become completely one, so that the world may know that you have sent me and have loved them even as you have loved me.  Father, I desire that those also, whom you have given me, may be with me where I am, to see my glory, which you have given me because you loved me before the foundation of the world.  ‘Righteous Father, the world does not know you, but I know you; and these know that you have sent me.  I made your name known to them, and I will make it known, so that the love with which you have loved me may be in them, and I in them.’

This is the Gospel of the Lord.
Praise to you O Christ.

Post Communion

Eternal Giver of love and power, your Son Jesus Christ has sent us into all the world to preach the gospel of his kingdom: confirm us in this mission, and help us to live the good news we proclaim; through Jesus Christ our Lord.  Amen.


Text from the Church in Wales – Word of the Lord 2011 copyright © Church in Wales Publications 2011.Collects and Post Communion Prayers from the book New Calendar and the Collects. Copyright © The Representative Body of the Church in Wales 2003 ISBN – 1853115495. Quotations and Psalms from The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America. Used as permitted.